Lleoliad:
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Dyddiad: Dydd Gwener, 16 Hydref 2015
Amser: 10.31 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3452
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Melding AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC Paul Davies AC Mike Hedges AC (yn lle Ann Jones AC) Eluned Parrott AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Y Prif Weinidog Manon Antoniazzi, Llywodraeth Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru Dr Hugh Rawlings, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'i staff am y cymorth a roddwyd i'r Pwyllgor.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. Roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ei rhan.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran hyrwyddo a marchnata Cymru. Cyflwynodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog, yn ymwneud â hyrwyddo a marchnata Cymru, a ddaeth i law gan aelodau'r cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran datblygiadau cyfansoddiadol.
3.1 Nododd yr Aelodau'r ddau bapur:
CSFM(4)02-15(ptn1) – Adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru mewn ymateb i argymhellion gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: Perthynas Llywodraeth Cymru gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Preifat.
CSFM(4)02-15(ptn2) - Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd – Dilyn o’r cyfarfod ar 13 Mawrth 2015 (Rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, a’r broses o ran penodiadau cyhoeddus amlwg yng Nghymru, a chraffu yn hyn o beth)
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ar yr Agenda.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu flaenorol a chytunwyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn nodi nifer o sylwadau ac argymhellion.